2015 Rhif 1840 (Cy. 268)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu llety. Caiff rheoliadau o dan adran 57 o’r Ddeddf ddarparu,  pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person, a’r person o dan sylw wedi mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a phlant drwy ddarparu llety cartref gofal.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r amgylchiadau y mae’r gofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan y person yn gymwys iddynt. 

Mae rheoliad 3 yn pennu’r amodau y mae’n rhaid  eu bodloni er mwyn i’r awdurdod lleol fod o dan ofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan y person.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r “amod cost ychwanegol”. Pan fo cost y llety sy’n cael ei ffafrio gan y person yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol yn disgwyl ei thynnu fel arfer wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw er mwyn diwallu anghenion y person o dan sylw, nid yw’r awdurdod lleol dan ofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw oni chaiff yr amod cost ychwanegol ei fodloni.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol roi rhesymau mewn ysgrifen dros wrthod darparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan berson.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2015 Rhif 1840 (Cy. 268)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015

Gwnaed                                 27 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       3 Tachwedd 2015

Yn dod i rym                             6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 57 a 196(2)(c) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw—

(a)     llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000([2]) pan fo’r llety yng Nghymru neu Loegr;

(b)     llety mewn gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010([3]) pan fo’r llety yn yr Alban; neu

(c)     llety mewn cartref gofal preswyl o fewn yr ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003([4]) pan fo’r llety yng Ngogledd Iwerddon;

ystyr “llety sy’n cael ei ffafrio” (“preferred accommodation”) yw’r llety y mae person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi  mynegi ei fod yn ei ffafrio yn unol â rheoliad 2(b).

Y dewis o lety

2. Pan fo—

(a)     awdurdod lleol([5]) yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf  drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal yn y Deyrnas Unedig;

(b)     y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi  mynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal penodol; ac

(c)     yr amodau yn rheoliad 3 wedi eu bodloni,

rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Amodau ar gyfer darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio

3.(1)(1) Rhaid i’r amodau a ganlyn fod wedi eu bodloni ar gyfer darparu llety sy’n cael ei ffafrio o dan reoliad 2—

(a)     bod y cynllun gofal a chymorth ar gyfer y person yn pennu y gellir diwallu anghenion y person drwy ddarparu llety cartref gofal;

(b)     bod y llety sy’n cael ei ffafrio yn addas ar gyfer anghenion y person;

(c)     bod y llety sy’n cael ei ffafrio ar gael; ac

(d)     os nad yr awdurdod lleol sy’n darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, bod darparwr y llety yn cytuno i ddarparu’r llety i’r person ar delerau’r awdurdod lleol. 

(2) Os yw’r gost i’r awdurdod lleol am ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw, rhaid i’r amod cost ychwanegol yn rheoliad 4 hefyd gael ei fodloni([6]).

Yr amod cost ychwanegol

4.(1)(1) Mae’r amod cost ychwanegol wedi ei fodloni—

(a)     os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y talwr yn alluog ac yn fodlon i dalu cost ychwanegol y llety sy’n cael ei ffafrio am y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl diwallu anghenion y person drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw; a

(b)     bod y talwr yn ymuno gyda’r awdurdod lleol mewn cytundeb ysgrifenedig, lle y mae’r talwr yn cytuno i dalu’r gost ychwanegol.

(2) Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i’r talwr fynediad at wybodaeth a chyngor digonol i alluogi’r talwr i ddeall telerau’r cytundeb ysgrifenedig arfaethedig cyn ymuno yn y cytundeb hwnnw.

(3) Rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys—

(a)     y gost ychwanegol;

(b)     y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw;

(c)     amlder y taliadau;

(d)     manylion y person y mae’r taliadau i’w gwneud iddo;

(e)     darpariaeth ar gyfer adolygu’r cytundeb;

(f)      darpariaethau ynghylch y materion a bennir ym mharagraff (4).

(4) Y materion penodedig yw—

(a)     canlyniadau peidio â gwneud taliadau;

(b)     effaith codiadau mewn ffioedd a wneir gan ddarparwr y llety sy’n cael ei ffafrio; ac

(c)     effaith newidiadau yn amgylchiadau ariannol y talwr.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y talwr” (“the payer”) yw—

(a)     person ac eithrio’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo; neu

(b)     mewn achos y mae paragraff (6) yn gymwys iddo, y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo.

(6) Caiff yr awdurdod lleol beidio â chytuno gyda’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo i’r person hwnnw dalu’r gost ychwanegol oni fydd—

(a)     paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015([7]) (cyfalaf sydd i’w ddiystyru yn y 12 wythnos gyntaf) yn gymwys i’r person hwnnw; neu

(b)     y person a’r awdurdod lleol yn cytuno neu wedi cytuno i ymuno mewn cytundeb ar daliad gohiriedig yn unol ag adran 68 o’r Ddeddf.

(7) At ddibenion y rheoliad hwn, caiff y gost ychwanegol sydd i’w thalu gan y talwr fod yn llai na swm llawn y gost ychwanegol y cyfeirir ati yn adran 57(3) o’r Ddeddf, os yw’r awdurdod lleol yn cytuno y dylid talu swm llai.

Gwrthod darparu llety sy’n cael ei ffafrio

5. Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod darparu neu drefnu i ddarparu llety sy’n cael ei ffafrio rhaid iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi pa un neu pa rai o’r amodau yn rheoliad 3(1) neu reoliad 4(1) nas bodlonwyd ac sy’n pennu’r rhesymau.

 

 

 

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2015



([1])        2014 dccc 4.

([2])        2000 p. 14. Diwygiwyd adran 3 gan adran 95 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) a pharagraff 4 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

([3])        2010 dsa 8.

([4])        O.S. 2003/431 (G.I. 9).

([5])        Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am ystyr “awdurdod lleol”; mae’r diffiniad wedi ei gyfyngu i awdurdodau lleol yng Nghymru.

([6])        Gweler adran 57(3) o’r Ddeddf am ystyr “cost ychwanegol”.

([7])        O.S. 2015/1844 (Cy. 272)